Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 22 Medi 2021.
Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, dyw hwnna ddim yn mynd i fynd i'r afael â'r problemau a'r bylchau sydd ar gyfer y plant sydd ddim yn yr ysgol.
Buaswn hefyd yn gwerthfawrogi mwy o wybodaeth gennych chi, efallai, mewn perthynas â her arall yn y maes hwn. Mewn ffordd, gwnaeth eich ateb diwethaf chi amlinellu hynny, achos mae cyrchu gwybodaeth yn dal i fod yn rhwystr sylweddol i lawer o rieni. Fel y gwnaethoch chi efallai darlunio yn eich ateb, mae darpariaeth gofal plant a chymorth ariannol yn glytwaith cymhleth sy'n cael ei weinyddu gan wahanol sefydliadau. Felly, a yw'r Llywodraeth wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i sut gellid gwella mynediad at wybodaeth, efallai drwy gael rhyw fath o siop un-stop ddigidol, lle byddai rhieni yn gallu mewnbynnu eu gwybodaeth a chael wedyn ddarlun llawn o'r gefnogaeth maen nhw'n gymwys i'w hawlio a lle i gyrchu'r gefnogaeth honno?