Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 22 Medi 2021.
Mae mynd i'r afael â hiliaeth yn fusnes i bawb ac mae'n rhaid iddo fod yn fusnes i bawb. Ceir sectorau yng Nghymru sy'n cael eu cefnogi'n ariannol gan Lywodraeth Cymru, er nad ydynt yn gyrff cyhoeddus ac felly ni fydd yn ofynnol iddynt gadw at ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. A wnaiff y Gweinidog ystyried deddfwriaeth i orfodi hynny lle mae cyrff yn cael cymorth ariannol gan y Llywodraeth?