Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 22 Medi 2021.
I ddilyn cwestiwn fy nghyd-Aelod Rhys ab Owen, mae gennyf innau ddiddordeb mawr hefyd yn y system cyfiawnder troseddol a gorgynrychiolaeth pobl sydd â nodweddion gwarchodedig, yn enwedig carcharorion du ac ethnig leiafrifol. Mae 26 y cant o boblogaeth y carchardai yng Nghymru a Lloegr yn dod o grŵp ethnig leiafrifol. Mae hynny'n cymharu ag 16 y cant o'r boblogaeth gyfan ledled Cymru a Lloegr. Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno nad yw hyn yn dderbyniol, ac nid oes amheuaeth nad yw ein system cyfiawnder troseddol yn gweithio i bobl o gefndiroedd du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Hoffwn ddilyn cais Rhys ab Owen am ddata a gwybodaeth i ofyn sut y gallwn gael data mwy effeithlon ynghylch carchardai Cymru, yn enwedig poblogaeth y carchardai sydd â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys pobl o gefndiroedd Cymraeg eu hiaith hefyd, ac o gefndiroedd LGBTQI. Diolch yn fawr iawn.