Defnyddio Technoleg mewn Etholiadau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 22 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:23, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Yn ystod etholiadau diweddar y Senedd, gwelwyd defnydd arloesol o dechnoleg mewn un etholaeth yn ymwneud â'r ffordd y câi'r pleidleisiau eu marcio ar y gofrestr. Yn draddodiadol, câi'r cofnod o bwy sydd wedi pleidleisio ei wneud ar bapur, ond gwnaed hyn ar gyfrifiaduron llechen gan staff yr orsaf bleidleisio ym Mlaenau Gwent. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, rwy'n cyfeirio at y cofnod o bwy sydd wedi pleidleisio, yn hytrach na phleidleisio electronig, sy'n fater arall yn gyfan gwbl. Ni allaf ond gweld pethau cadarnhaol o'r defnydd o dechnoleg yn yr agwedd hon ar y broses bleidleisio, gan ei bod yn cyfyngu ar gamgymeriadau gan bobl ac yn arwain at ddata mwy cywir wrth gynhyrchu'r gofrestr wedi'i marcio. A yw Llywodraeth Cymru, felly, yn mynd i hyrwyddo'r defnydd o arferion technolegol da mewn etholiadau, yn debyg i'r hyn a amlinellais?