Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 22 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:50, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Mae fy nghwestiwn olaf yn debyg i gwestiwn Mark Isherwood, ond mae'n debyg na fyddwch yn synnu ei fod o bersbectif gwahanol. Mae'n ymwneud â'r adran godi'r gwastad sydd newydd ei henwi, o dan arweinyddiaeth Michael Gove, sy'n arwr i rai pobl yno mae'n debyg. Nawr, maent yn gyfrifol am ddosbarthu'r gronfa godi'r gwastad, ac fel y nodwyd, ymddengys y bydd y gronfa'n cefnogi etholaethau Torïaidd yn bennaf yn ôl pob tebyg, ac yn pasio heibio i'r Senedd yn y broses. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y geiriau hyn o'r blaen, 'Lle maent yn ystyried bod hynny’n briodol, byddant yn ceisio cyngor gan Lywodraeth Cymru ar brosiectau yng Nghymru.' Dyna garedig yw Llywodraeth San Steffan i ystyried Llywodraeth etholedig pobl Cymru pan fyddant o'r farn fod hynny’n briodol. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a'r adran hon sydd newydd ei henwi, ac a yw'n cytuno â mi mai hon yw'r drydedd enghraifft o gipio pŵer gan Lywodraeth y Torïaid yn San Steffan?