Hawliau Gweithwyr

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 22 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 3:00, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn ar fater sy'n agos at fy nghalon, fel y mae'n gwybod. Gallwn gynyddu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr a hyrwyddo mynediad at gymorth a chyngor. Fel rhan o'n hymrwymiadau i waith teg, buom yn cydweithio â phartneriaid cymdeithasol ar ymgyrch hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr, a byddwn yn adeiladu ar hyn wrth inni barhau i ddatblygu gwaith teg.