Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 22 Medi 2021.
Wel, yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod, wrth gwrs, yw bod hwn yn fater sydd ym mhortffolio’r Gweinidog cyllid yn y bôn. Efallai, os caf wneud sylwadau ar un neu ddau o'r pwyntiau cyffredinol sydd efallai, i raddau, yn agosáu at ymylon fy mhortffolio, credaf fod y methiant i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar arian a fu gynt o fewn awdurdodaeth Llywodraeth Cymru a'r lle hwn, ond sydd bellach yn cael ei ddefnyddio'n fwriadol i gamu heibio i'r Siambr etholedig yma, yn gywilyddus ac yn tanseilio democratiaeth, a'r bwriad strategol gwleidyddol amlwg iawn yw tanseilio datganoli. A chredaf ei fod hefyd yn golygu bod arian a werir nad yw'n parchu'r prosesau democrataidd yma, a'r mandad democrataidd yr etholwyd pob un ohonom arno, yn tanseilio democratiaeth yn y DU gyfan. Ar y symiau o arian, rwyf wedi clywed y warant 'dim ceiniog yn llai'; byddaf yn credu hynny pan fyddaf yn ei weld.