Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 22 Medi 2021.
Wel, diolch yn fawr iawn, ac unwaith eto, mater amserol iawn, un rwyf wedi bod yn ei drafod gyda fy swyddogion cyfatebol yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y DU, gan adeiladu ar gryn dipyn o waith a wnaed gan fy rhagflaenydd. A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, ar y fframweithiau, mae'r fframweithiau'n enghraifft, yn fy marn i, o sut y mae pedair gwlad y DU wedi gallu cydweithredu, yn ysbryd cydnabyddiaeth o fuddiannau cyffredin? Credaf mai'r broblem gyda Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yw ei bod wedi chwalu'r broses honno. Roedd yn ddiangen, ac wrth gwrs, un o'r problemau mwyaf y mae'n eu hachosi, ynghyd â materion eraill sy'n ymwneud â'r cytundeb masnach a chydweithredu a materion sy'n ymwneud â chytundebau masnach rhyngwladol, yw ei bod wedi tanseilio cynnydd a chytundebau y gellid eu cyflawni ar y cyd. Wedi dweud hynny, rydych hefyd yn ymwybodol y bydd her gyfreithiol yn cael ei chlywed yn y Llys Apêl, wedi'i chyflwyno gennyf fi ar ran Llywodraeth Cymru fel Cwnsler Cyffredinol, a bydd honno'n cael ei chlywed ym mis Ionawr 2022.
O ran y materion sy'n ymwneud â chyfreithlondeb Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, wedi dweud hynny, rydym wedi gallu parhau â thrafodaethau a negodiadau ar sail ddiragfarn mewn ysbryd o gydweithrediad. Gallaf ddweud hefyd fod arwyddion calonogol yn nodi bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud. Mae trafodaethau parhaus, wrth gwrs, yn mynd rhagddynt gyda swyddogion ynghylch y geiriad, yr union eiriad sydd mor bwysig yn y materion hyn, ac os gellir dod i gytundeb ar y telerau cywir, a heb ragfarnu'r her gyfreithiol, rydym yn gobeithio cyrraedd sefyllfa lle gallwn ddechrau ar y broses o gyhoeddi rhai o'r fframweithiau hynny, gan y bydd y broses graffu yn y Siambr hon ac mewn pwyllgorau'n bwysig tu hwnt. Felly, mae'r gwaith hwnnw wedi hen ddechrau, ac er gwaethaf nifer o anawsterau, credaf ei bod yn deg dweud bod cynnydd wedi'i wneud.