Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 22 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:43, 22 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Fel y gwyddoch, Gwnsler Cyffredinol, pan fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno Bil yn San Steffan sydd o fewn pwerau datganoledig y Senedd, mae angen i Lywodraeth Cymru osod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Drwy gydol y bedwaredd Senedd, wyth Bil yn unig a oedd mewn meysydd datganoledig. Eisoes, yn y chweched Senedd hon, rydym wedi cyrraedd 13. Nawr, rwy'n falch nad yw Llywodraeth Cymru yn rhoi cydsyniad i wyth—hoffwn pe bai'n 13, fel yr awgrymais ddoe, ond rwy'n falch nad ydych yn rhoi cydsyniad i wyth. Ond a ydych yn cytuno â mi fod y cynnydd hwn yn yr angen i gael memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn enghraifft amlwg o gipio pŵer gan Lywodraeth San Steffan? A pha gamau rydych chi a Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i frwydro yn erbyn y tresmasu amlwg hwn ar ein setliad datganoli?