Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 22 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 2:48, 22 Medi 2021

Dwi eisiau symud ymlaen nawr i’r comisiwn ffiniau, sydd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n lleihau nifer y seddi Cymreig i 32. Mae’n amlwg i bawb beth sy’n digwydd fan hyn, sef yr un peth â gyda’r Bil etholiadau—bod rhaid cael ID. Y Ceidwadwyr, unwaith eto, yn ceisio cryfhau eu grym yn San Steffan a thanseilio llais Cymru. A ydy Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i ymgynghoriad y comisiwn ffiniau? Ac ydyn nhw’n mynd i godi pryderon am yr effaith negyddol y bydd hyn yn ei chael ar bobl Cymru?