Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 22 Medi 2021.
Wel, diolch am eich sylwadau. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwrando ar y pwyntiau ar yr union foment hon, ac rwy'n siŵr, os nad yw, y caiff manylion y pwyntiau a wnaethoch eu dwyn i'w sylw maes o law. Fe fyddwch yn deall nad oes modd i mi wneud sylwadau ar unrhyw geisiadau unigol, a cheisiadau lle byddai'n hollol amhriodol i mi wneud sylwadau pellach oherwydd fy nghyfrifoldebau. Ond rwy'n siŵr y byddwch hefyd yn falch o'r cynigion a gyhoeddais ddoe—ein bod yn edrych ar Fil cydgrynhoi mewn perthynas â chyfraith gynllunio er mwyn gwneud y system gynllunio o leiaf yn symlach, yn gliriach ac yn fwy hygyrch.