Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 22 Medi 2021.
Diolch am eich cwestiwn, John Griffiths. Mae'r cyfansoddiad wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gydag ymosodiadau ar ddatganoli gan Lywodraeth gynyddol drahaus yn y DU. Dyna pam ein bod yn sefydlu comisiwn cyfansoddiadol a fydd yn estyn allan at y gymdeithas ddinesig a'r cyhoedd i ganfod consensws ar ddatganoli a'r cyfansoddiad ehangach.