Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 22 Medi 2021.
Diolch yn fawr. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol, o'i fewnflwch a chymorthfeydd yn ei etholaeth ei hun, o'r anawsterau sy'n wynebu llawer o fenywod a aned yn y 1950au ac sydd yn y sefyllfa ofnadwy hon o ganlyniad i ddiffyg cyfathrebu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch y newidiadau i bensiwn y wladwriaeth. Ac yn drasig, bu farw llawer o'r menywod hyn cyn cael ceiniog o'r pensiynau y maent yn eu haeddu. Gwn y cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd ddiwethaf i helpu i sicrhau cyfiawnder i'r menywod hyn. A oes gan Lywodraeth newydd Cymru unrhyw gynlluniau i ddarparu cymorth i'r menywod hyn?