Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 22 Medi 2021.
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Cytunodd Comisiwn y Senedd ar ei strategaeth carbon niwtral ym mis Mawrth 2021. Mae'r strategaeth hon yn manylu ar ein hymrwymiad i fod yn garbon niwtral net erbyn 2030. Mae'r strategaeth ar gael ar ein gwefan. O fewn y strategaeth hon, byddwn yn manylu ar y camau i'w cymryd i leihau ein hallyriadau carbon, gan gynnwys y defnydd o drydan, gwresogi, oeri, teithio a newid diwylliannol. Rwy'n falch o allu defnyddio'r cyfle hwn i ddweud wrth yr Aelodau mai'r Senedd yw'r senedd gyntaf yn y DU i gyhoeddi map ffordd tuag at weithredu di-garbon. Mae'r strategaeth hon yn cynnwys cyfuniad o newid ymddygiad ac arbedion effeithlonrwydd i sicrhau bod ein defnydd o ynni mor isel â phosibl cyn bod angen buddsoddi.