Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 22 Medi 2021.
Mae'r Comisiwn yn gallu cynnal busnes y Senedd ar ffurfiau rhithwir a hybrid. Mae hyn yn sicrhau parhad ein Senedd a gallu pob Aelod i gymryd rhan ar bob lefel o gyfyngiadau'r coronafirws. Mae'r Aelodau wedi gallu dod i ystâd y Senedd i gymryd rhan ym musnes y Senedd ers cyflwyno trafodion y Cyfarfod Llawn hybrid, a hynny ers Gorffennaf 2020.
O dan y trefniadau presennol, mae nifer yr Aelodau a all fod yn bresennol yn gorfforol yn y Siambr ar unrhyw adeg wedi cynyddu i 30. Gall Aelodau sy'n cymryd rhan o bell wneud hynny o unrhyw leoliad, gan gynnwys eu swyddfeydd yn Nhŷ Hywel neu yn y Senedd, fel yr ydw i ar hyn o bryd.