Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 22 Medi 2021.
Diolch, Weinidog, a diolch, Lywydd, am dderbyn y cwestiwn amserol hwn. Mae'r argyfwng hwn yn fyd-eang ei natur wrth gwrs, ond mae'r DU mewn sefyllfa arbennig o beryglus oherwydd cronfeydd nwy anarferol o isel, colli'r rhyng-gysylltydd IFA, gan lesteirio ein gallu i fewnforio trydan o Ewrop, a chynhyrchiant ynni gwynt ar lefel is na'r arfer. Rydym yn gweld argyfwng yn digwydd o fewn llawer o argyfyngau rhyng-gysylltiedig ac fel y cytunwch rwy'n siŵr, ni ddylem dangyfrif maint yr argyfwng. Dywedodd pennaeth Ofgem heddiw wrth ASau fod y cynnydd mewn prisiau yn ddigynsail, a bod prisiau nwy eisoes chwe gwaith yn uwch na'r llynedd, ar ôl cynnydd o 70 y cant ym mis Awst yn unig. Roedd hefyd yn gwrth-ddweud y sicrwydd a roddodd Prif Weinidog y DU drwy ddweud nad yw'r broblem yn debygol o fod yn un dros dro. Ni waeth pa mor fyd-eang neu gymhleth yw achosion yr argyfwng, bydd yr effaith yn syml iawn a gallai fod yn ddinistriol i aelwydydd incwm isel.
Fel rydych wedi'i nodi, Weinidog, nid hyn yn unig sy'n mynd i effeithio arnynt. Bydd miloedd o deuluoedd yn gweld eu credyd cynhwysol yn cael ei dorri, byddant yn wynebu costau byw uwch, a biliau ynni uwch yn awr. Weinidog, mae Sefydliad Joseph Rowntree yn dweud y bydd cwpl â dau o blant ar gredyd cynhwysol £130 y mis yn waeth eu byd erbyn mis Hydref, a bydd y bwlch yn y gyllideb yn cynyddu i £1,750 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf. Mae'r rhain yn bobl na all fforddio ergyd o'r fath. A allai'r Gweinidog ddweud wrthym beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi pobl sy'n wynebu'r caledi ariannol sydd ar fin digwydd? Rwy'n pryderu'n arbennig am bobl sy'n defnyddio mesuryddion rhagdalu a allai olygu bod eu cyflenwad yn cael ei dorri os na allant fforddio talu. Ac a wnaiff hi bwyso ar Weinidogion y DU ynglŷn â'r angen i gymryd camau ariannol ar unwaith i gefnogi'r teuluoedd hyn, fel y mae Sbaen, Ffrainc a'r Eidal eisoes wedi cyhoeddi?
At hynny, a allai'r Gweinidog ddweud wrthym a yw wedi cynnal trafodaethau gyda gwneuthurwyr dur Cymru a diwydiannau trwm eraill sy'n wynebu cynnydd yn eu costau, ac a yw wedi trosglwyddo eu pryderon i Lywodraeth y DU? Byddwn hefyd yn falch o glywed, Weinidog, am unrhyw gamau a gymerir i ddiogelu'r sector amaethyddol yn wyneb y prinder carbon deuocsid. Yn y cytundeb â Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd neithiwr, dim ond am bythefnos y cytunwyd i ailddechrau cynhyrchu, a gwn fod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi galw am sicrwydd ar unwaith.
Yn olaf, Weinidog, mae'r argyfwng yn cadarnhau pa mor bwysig yw hi ein bod yn newid i ynni mwy adnewyddadwy, ond gwn y bydd y cwestiynau a fydd ar flaen meddyliau pobl yn ymwneud â sut y gallwn gadw'r goleuadau ynghynn, a sut y caiff pobl eu bwydo a'u cadw'n gynnes. Rwy'n siŵr y bydd llawer yn gwrando ar atebion y Gweinidog gyda diddordeb brwd.