Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 22 Medi 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r hen ffyrdd o weithio ar ben—neu o leiaf, dyna rwy'n gobeithio y gallwn ei ddweud erbyn diwedd y ddadl hon. Mae canlyniadau pandemig COVID-19 i weithgarwch economaidd, cyflogaeth a'n ffordd o weithio wedi bod yn bellgyrhaeddol. Gyda gweithio gartref yn norm i lawer, gwelodd gweithwyr ledled Cymru a'r byd newid cadarnhaol, amlwg o ran creu gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Nid oedd yn rhaid i lawer o weithwyr gymudo am oriau bob dydd; daeth cyfarfodydd wyneb yn wyneb a ddylai fod wedi bod yn alwad ffôn yn alwad ffôn; a daeth galwad ffôn a allai fod wedi bod yn e-bost yn e-bost. Canfu llawer o weithwyr fod gallu treulio mwy o amser gartref a chyda'u teulu wedi gwella eu lles corfforol a meddyliol.
Er gwaethaf hyn, fel y dengys adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig ar COVID a'r byd gwaith a gyhoeddwyd y llynedd, mae'n wir dweud nad oedd pob gweithiwr wedi elwa o gydbwysedd lles o'r fath a rhwng bywyd a gwaith. Mae wythnos waith pedwar diwrnod, o'i wneud yn iawn, yn un ffordd o sicrhau y gellir cynnwys y manteision hyn yn ein harferion gwaith a'u teimlo gan bob gweithiwr, boed ar gyflogau uwch neu is.
Yr hyn y mae'r pandemig wedi'i ddangos yn glir yw bod newidiadau radical er gwell yn bosibl pan fydd y Llywodraeth yn gwneud pethau'n iawn. Mae economi'r DU wedi bod yn anghytbwys ers tro, gan niweidio gweithwyr ar y naill ben a'r llall, ac mae'r argyfwng presennol yn bygwth gwaethygu'r effeithiau negyddol ar iechyd meddwl i'r miliynau sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i unrhyw waith neu fwy o waith, a niferoedd tebyg sy'n dymuno lleihau eu horiau. Os yw misoedd cyntaf yr argyfwng yn unrhyw arwydd o'r hyn sydd i ddod, mae hefyd yn awgrymu y bydd yr effeithiau hyn yn cael eu teimlo'n gryfach o lawer gan fenywod ac yn ein gwthio ymhellach oddi wrth economi gyfartal rhwng y rhywiau.
Yn 1930, rhagwelodd John Maynard Keynes na fyddai cyflogeion, 100 mlynedd yn ddiweddarach, yn gweithio mwy na 15 awr yr wythnos. Y rhesymeg y tu ôl i hynny oedd y byddai datblygiadau technolegol cyflym yn rhyddhau'r gweithlu, gan roi mwy o amser ar gyfer hamdden. Mae'n ymddangos bod un agwedd ar y broffwydoliaeth hon yn gywir: erbyn 2030, mae amcangyfrifon ceidwadol yn dangos y bydd 30 y cant o'r swyddi presennol wedi'u colli i awtomeiddio. Mae datblygiadau technolegol yn trawsnewid byd gwaith, ac ar hyn o bryd, ystyrir bod awtomeiddio'n addewid ac yn fygythiad, a'r canfyddiad yw bod yr addewid yn y potensial y gall awtomeiddio ryddhau gweithwyr o lafurwaith oriau hir a chryfhau cyflogau drwy gyfran mewn elw o gynhyrchiant yn y dyfodol, tra bod yr ofn yn y perygl o ddiswyddiadau torfol, wrth i ddatblygiadau mewn technoleg ddechrau lleihau'r galw am lafur, yn ogystal ag ehangu anghydraddoldebau.
Os mai o fudd i'r rhai sydd â chyfran mewn cyfalaf busnes yn unig fyddai'r elw o gynhyrchiant a ragwelir o awtomeiddio, mae perygl inni wireddu'r dyfodol dystopaidd a welwn yn aml wedi'i ddarlunio mewn llyfrau a ffilmiau. Yr hyn sy'n amlwg yn awr yw y bydd byd gwaith yn newid yn eithriadol o gyflym dros y degawd nesaf, a heb ymyriadau polisi blaengar, byddwn yn colli cyfle i rannu manteision awtomeiddio'n deg ar draws cymdeithas ac i wneud cynnydd ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol. Mae wythnos waith fyrrach yn un ffordd o rannu buddion cynnydd technolegol.
Nawr wrth gwrs, bydd fy nghyd-Aelodau'n siarad am amryw o bwyntiau yn ystod y ddadl hon, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau o bob rhan o'r Siambr. Ond hoffwn atgoffa'r Aelodau nad oes angen inni edrych yn bell i weld ein cymdogion yn bwrw ymlaen ag wythnos pedwar diwrnod. Mae'r Alban ac Iwerddon, er enghraifft, eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer cynllun peilot, ac mae Sbaen hefyd wedi cyhoeddi bwriad i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod ymhlith cwmnïau sydd â diddordeb mor gynnar â'r hydref hwn.