Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 22 Medi 2021.
Wel, nid wyf o reidrwydd yn poeni am y gorffennol—rwy'n poeni mwy am y presennol a'r dyfodol.
Mae mesur cynhyrchiant yn fater cymhleth iawn ac nid oes cydberthynas linellol rhwng gweithio llai, cael eich talu yr un fath a chynnydd mewn cynhyrchiant. Os yw cynhyrchiant yn cynyddu, mae'n golygu bod rhaid i'r cyflogai wneud pum diwrnod o waith mewn pedwar diwrnod. Byddai'r cynigion hyn, yn fy marn i, yn wrthgynhyrchiol i rai pobl oherwydd, wrth i oriau gwaith ddod yn fwy dwys, byddai llai o amser ar gyfer amser egwyl a llai o amser ar gyfer symud rhwng tasgau a lleoliadau. Er y gall cwmnïau mawr iawn leihau llwyth gwaith pobl drwy ostwng nifer y diwrnodau gwaith, rwy'n dadlau y bydd llawer o sefydliadau llai yn dal i ddisgwyl yr un llwyth gwaith am yr un cyflog. Ac felly, yr hyn y bydd wythnos waith pedwar diwrnod yn ei wneud yn y pen draw yw creu rhaniad, lle byddai rhai gweithwyr yn y sector cyhoeddus a sefydliadau mawr yn mwynhau gweithio llai, tra byddai eraill yn gweithio'n galetach dros y pedwar diwrnod mewn ymdrech i gadw busnesau ar agor.
Yn Utah, er enghraifft, rhoddwyd y gorau i'r wythnos waith pedwar diwrnod yn 2011, oherwydd, er bod gweithwyr y sector cyhoeddus wedi mwynhau diwrnod ychwanegol o'r gwaith, cafwyd cryn dipyn o gwynion na allai pobl gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Hefyd, ychydig iawn o fudd y byddai'r cynigion hyn yn eu rhoi o ran iechyd a lles i weithwyr ar y cyflogau isaf, a allai gael eu temtio i chwilio am waith ychwanegol ar y diwrnod ychwanegol y byddent fel arfer wedi gweithio. Mae'n debyg y bydd llawer o sefydliadau, gan gynnwys ein gwasanaeth iechyd gwladol, yn ei chael hi'n anodd ateb y galw pe bai eu staff yn gweithio llai o oriau. Yn yr un modd, er mwyn sicrhau bod yr un oriau gweithredu ar gael, mae'n ddigon posibl y byddent yn ei chael yn anodd cyflogi staff â chymwysterau digonol sy'n barod i weithio'n rhan-amser, a fyddai wedyn yn effeithio ar argaeledd cyffredinol gwasanaethau. Mae hyn yn codi cwestiwn pwysig arall ynglŷn ag a fyddai plant ysgol hefyd yn cael addysg am bedwar diwrnod yr wythnos, neu a fyddai'n rhaid i ysgolion gyflogi set lawn o staff addysgu cymwysedig am un diwrnod yn unig.
Nodaf fod Plaid Cymru a Luke wedi sôn am Wlad yr Iâ, ond cynnig y wlad honno yw lleihau'r wythnos waith gyfartalog o 40 awr i tua 36 awr heb ostwng cyflogau. Yn ôl Swyddfa Ystadegau Gwladol y DU, yr wythnos waith gyfartalog yn y DU ychydig cyn COVID oedd 36.9 awr. Felly, mewn theori, mae Gwlad yr Iâ mewn gwirionedd yn lleihau eu horiau gwaith fel eu bod yn debyg i oriau gwaith gwledydd eraill.
Yn olaf, a gaf fi ychwanegu nad yw gorfodi wythnos waith pedwar diwrnod i weithwyr yn cyd-fynd â'r syniad o gymdeithas iach gyda hawliau i ddewis? Yn anffodus, dim ond eu cydweithwyr sydd gan lawer o bobl yn gysylltiadau cymdeithasol ac maent yn treulio amser gyda hwy ar sail reolaidd yn ystod oriau gwaith. Bydd eu gorfodi i golli 20 y cant o'u cyswllt ag eraill, yn ogystal â gwneud eu diwrnod gwaith yn fwy dwys, yn niweidio eu hiechyd meddwl.
Nid oes amheuaeth yn fy meddwl—mae cynnig y dylai Llywodraeth Cymru dreialu wythnos waith pedwar diwrnod yn ddiystyr, ac yn y pen draw, yn annoeth, fel rwy'n gobeithio ein bod wedi dangos. Nid yw materion cyflogaeth yn rhan o gylch gwaith Llywodraeth Cymru, maent wedi'u cadw'n ôl i Lywodraeth y DU, ac ni ddylem fod yn gwastraffu ein hamser yn trafod cynnig fel hwn. Dyna pam ein bod wedi cynnig ein gwelliannau. Diolch.