Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 22 Medi 2021.
Diolch, Luke. Ar y pwynt hwnnw'n unig, ni fyddai'r galw am wasanaethau, a'r hyn sydd ei angen ar gleifion o fewn y sector gofal, yn gydnaws ag wythnos pedwar diwrnod beth bynnag. Ym maes gofal cymdeithasol, rydym yn ymdrin â rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, sy'n galw am y gofal 24 awr saith diwrnod yr wythnos na fyddai wythnos pedwar diwrnod yn ei hwyluso.