Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 22 Medi 2021.
Mi wnaf, diolch. Dwi ddim yn gwybod os ddaru Joel wrando ar y ddadl gyfansoddiadol ddoe, lle clywsom ni am ddeddfwriaeth o'r ymerodraeth Rufeinig, am Hywel Dda, am Iorwerth, ac enghreifftiau eraill mewn hanes. Ond rydw innau am ddechrau trwy droi at hanes er mwyn dangos bod posib mynd i'r afael â heriau mawr cymdeithasol, gan wella safon byw pobl drwy leihau oriau gwaith.
Ystyriwch dwf ein chwaraeon cenedlaethol ni—pêl-droed, rygbi, criced—neu ystyriwch dwf ein trefi glan môr, a threfi sba, neu ehangu gorwelion pobl efo theithiau trên a'r holl rinweddau cymdeithasol a gafwyd o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i'r 1930au, pan gyflwynwyd y penwythnos fel rydyn ni'n ei adnabod heddiw. Daeth y buddiannau yma, i raddau helaeth, yn sgil yr ymgyrch i leihau oriau gwaith pobl yn y cyfnod hwnnw. Heddiw, wrth gwrs, argyfyngau eraill sy'n wynebu ein cymdeithas ni, dim mwy na'r argyfwng newid hinsawdd. Beth bynnag am y rhestr ddaru Gareth ddweud ynghynt, yr argyfwng newid hinsawdd ydy'r un mawr sydd yn wynebu ein planed ni heddiw. Unwaith eto, gallai'r ymgyrch yma i leihau oriau gwaith chwarae rhan bwysig yn y datrysiad.
Sut, felly? Wel, mae asesiadau’n dangos bod sifftio i wythnos waith o bedwar diwrnod heb golli tâl yn medru lleihau ôl troed carbon y Deyrnas Gyfunol o 127 miliwn tunnell y flwyddyn erbyn 2025, sydd yn gwymp o dros 21 y cant yn ein hallyriadau carbon ni. Yn gynharach eleni, rhyddhaodd Platfform adroddiad ar fuddion amgylcheddol wythnos waith llai, a ddangosodd gwymp sylweddol yn y defnydd o drydan oherwydd bod gweithwyr yn gweithio i ffwrdd o'r unedau mawr sydd â pheiriannau defnydd dwys sydd i'w gweld yn ein swyddfeydd ar hyd a lled y wlad. Eto, ddaru Joel gyfeirio at Utah—a does neb yn dweud y bydd hyn yn berffaith; mae yna broblemau yn mynd i fod, a dyna pam ein bod ni'n cyfeirio at beilot—ond yn Utah ddaru'r arbrawf yna arwain at arbedion ynni sylweddol.
Y flwyddyn ddiwethaf, cyhoeddodd Autonomy adroddiad a oedd yn adolygu data o'r defnydd ynni mewn aelwydydd yn y Deyrnas Gyfunol yn ystod dyddiau gwaith o'u cymharu â phenwythnosau. Fe ddaeth yr adroddiad i’r casgliad y byddai penwythnos tri diwrnod yn lleihau allyriadau carbon o 117,000 tunnell yr wythnos. Rŵan, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn eithriadol mewn sawl ffordd, ond rydyn ni'n gweld patrymau gwaith pobl yn ailsefydlogi, efo ffyrdd yn cychwyn prysuro a thraffig trwm yn ystod yr oriau brig, unwaith eto. Mae tri chwarter y gweithlu yn ein hardaloedd gwledig yn ddibynnol ar deithio i'r gwaith mewn cerbyd preifat. Y car sydd hefyd yn tra-arglwyddiaethu yn y trefi a dinasoedd, efo bron 70 y cant yn defnyddio'r math yma o drafnidiaeth. Mae'n sefyll i reswm y byddai wythnos waith llai o hyd yn cael effaith ar hyn.
Mae gwaith gan Brifysgol Reading yn dangos bod wythnosau byrrach yn arwain at lai o siwrneiau mewn cerbydau preifat. Maen nhw'n amcangyfrif y byddai dros hanner biliwn o filltiroedd yn llai yn cael eu teithio bob wythnos, sydd wrth gwrs yn golygu llai o allyriadau a llai o gostau teithio. Mae'r adroddiad yma gan Brifysgol Reading yn mynd ymhellach, ac yn awgrymu y byddai achosion da fel elusennau sydd angen gwirfoddolwyr yn elwa, fel ddaru Sioned gyfeirio at ynghynt, ac y byddai lles ac iechyd teuluol ar eu hennill wrth i bobl ddweud y byddent yn treulio mwy o amser gartref. Byddai wythnos waith o bedwar diwrnod yn rhyddhau mwy o amser—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.