Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 22 Medi 2021.
Rwy'n credu bod cynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd fel mesur yn mynd yn rhy bell. Mae cyfradd straen, iselder a gorbryder sy'n gysylltiedig â gwaith yn parhau i godi ledled y DU. Roedd chwarter yr holl ddiwrnodau salwch y llynedd yn ganlyniad i lwyth gwaith, gan gostio biliynau o bunnoedd i fusnesau a'r sector cyhoeddus. Rydym yn wynebu argyfwng iechyd meddwl, ac mae Aelodau ar bob ochr yn gwybod nad oes gennym adnoddau na staff GIG i drin y symptomau'n ddigonol.
Nid peiriannau yw gweithwyr. Mae gan weithwyr deuluoedd a bywydau i'w byw. Efallai fod angen inni weithio er mwyn byw, ond ni ddylem fyw er mwyn gweithio. Credaf y dylai iechyd, lles a hapusrwydd fod yn fesur, nid cynnyrch domestig gros a chynhyrchiant yn unig. Mae pobl yn cael eu gwasgu i farwolaeth wrth gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd i wneud arian drwy'r amser. Ni allant wneud mwy.
Gwn o'm profiad personol fel gweithiwr post fod gweithwyr o dan bwysau cyson i weithio dyddiau hirach, heb sicrwydd o fwy o oriau dan gontract. Bellach, mae pawb sy'n dechrau o'r newydd yn y Post Brenhinol yn cael cynnig wythnos waith 25 awr, ond mae disgwyl iddynt weithio 35, 40 awr yr wythnos. Roedd rhai o'r rowndiau y byddwn i'n eu gwneud yn cynnwys 600 o dai ar un rownd. Roedd yn rhaid imi gerdded 12 milltir y dydd i gwblhau'r rownd honno. Maent newydd ei godi i 800 o dai ar y rownd honno am fod y cyfrifiadur yn dweud bod modd gwneud hynny. Roeddwn yn ffodus fy mod yn ei wneud bedwar diwrnod yr wythnos ochr yn ochr â fy ngwaith fel cynghorydd, felly roedd gennyf ddyddiau pan allwn orffwys. Ond rwy'n gwybod bod y gweithwyr post, y rhai newydd sy'n gorfod gwneud y rowndiau hirach hyn, yn gweithio'u hunain yn dwll. Mae'n effeithio ar eu cymalau, eu hiechyd a'u lles.
Mae hwn yn fater pellgyrhaeddol. Mae cyfraddau cadw athrawon yn parhau i ostwng. Mae mwyfwy o gysylltiad rhwng y lefel uchel o drosiant staff yn y GIG a chydbwysedd gwael rhwng bywyd a gwaith. Dyma rydym yn ei glywed drwy'r amser, onid e? Bydd rhai'n honni na allwn fforddio wythnos pedwar diwrnod. Mae hynny'n anwybyddu'r dystiolaeth sy'n dangos mwy o gynhyrchiant ar ôl cyflwyno wythnos pedwar diwrnod. Mae cyfyngu'r ddadl i ymarfer cost syml yn anwybyddu cost enfawr salwch meddwl i'n cymdeithas a'n heconomi, a'r manteision y mae cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith yn eu cynnig i les unigolion.
A gaf fi ddweud hefyd fy mod wedi bod yn edrych ar swyddi ar-lein—mae fy ngŵr wedi bod yn edrych hefyd—ond mae rhai o'r patrymau shifftiau bellach yn erchyll? Gwelais un swydd; roedd yn galw am weithio 12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos am yr wythnos gyfan, wedyn byddech yn cael yr wythnos ganlynol i ffwrdd. Sut y gallwch chi ofalu am eich teulu wrth wneud hynny? Sut y gallwch chi drefnu i gasglu plant o'r ysgol? Ni allaf weld sut y byddai hynny'n digwydd. A'ch cloc corfforol hefyd, yn gweithio saith diwrnod, 12 awr y dydd am wythnos, ac wythnos i ffwrdd. Mae hyn eto oherwydd cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, oherwydd mae ffatrïoedd yn gweithio mewn shifftiau 12 awr. Fe'i gwelais hefyd pan oeddwn yn aelod cabinet dros wasanaethau stryd, rhaid imi gyfaddef—ceisio cadw'r cerbydau i symud, oherwydd bod hynny'n hybu effeithlonrwydd. Ond nid robotiaid yw pobl. Mae'r cyfan yn gadael ei effaith.
Mae'r mudiad Llafur wedi bod yn gyfrifol am newid aruthrol yn y wlad hon, o'r penwythnos i wyliau â thâl, isafswm cyflog a phensiynau'r gweithle. A gaf fi ddweud fy mod yn falch o'm cyd-Aelod Jack Sargeant am roi sylw i'r mater hwn? Oherwydd roeddwn wedi clywed am hyn o'r blaen. A diolch eto am gyflwyno'r ddadl yma heddiw, Luke. Rwy'n cefnogi cynnig Llywodraeth Cymru i archwilio'r dystiolaeth sydd ar gael fel y gall ein mudiad barhau i fod ar flaen y gad yn sicrhau mwy o degwch i weithwyr yng Nghymru. Mae'n rhaid i hyn ddigwydd. Rwy'n credu ein bod ar ymyl y dibyn. Felly, diolch yn fawr.