Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 22 Medi 2021.
Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma. A dywedir yn aml fod i syniadau eu moment—moment mewn amser pan fydd yn gwneud synnwyr inni fynd ar eu trywydd. Nawr, fel rhywun a oedd yn arbenigo mewn rheoli newid yn fy rôl flaenorol fel peiriannydd, fy ngwaith i oedd deall pryd oedd y foment honno a sut i baratoi pobl ar gyfer newid. Dyna fy safbwynt ar y syniad o wythnos waith pedwar diwrnod. Rwy'n ei gefnogi a byddaf yn cynnal digwyddiad yfory i'w archwilio ymhellach yng Nghymru.