Part of QNR – Senedd Cymru ar 22 Medi 2021.
Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod ein holl gyfeillion o Afghanistan yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt i integreiddio’n llawn yn ein cymunedau. Drwy gydweithio gyda phartneriaid, byddwn yn sicrhau bod menywod yn cael yr un gefnogaeth i gael hyfforddiant ieithyddol, cymorth gyda gwaith, gweithgareddau diwylliannol a mwy er mwyn gwella eu sgiliau a’u siawns o gael gwaith.