Bargen Twf Canolbarth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 28 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:41, 28 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Cymeradwyodd cyd-bwyllgor y rhanbarth yr achos busnes portffolio ar 21 Medi. Yn amodol ar gadarnhad gan gabinetau'r ddau awdurdod lleol, rydym yn disgwyl iddo gael ei gyflwyno i'r ddwy Lywodraeth ddechrau mis Hydref, ac os bydd popeth yn mynd yn dda, gallai cytundeb y fargen lawn gael ei gwblhau erbyn diwedd eleni.