Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 28 Medi 2021.
Prif Weinidog, rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi, a'r Aelod, i longyfarch Llywodraeth Geidwadol y DU sy'n diogelu miliynau o swyddi ledled y DU diolch i'r cynllun ffyrlo. Ond mae'n amlwg iawn ar hyn o bryd bod prinder sgiliau yn Islwyn, ac ar draws ein gwlad, gan gynnwys y problemau yr ydym ni i gyd yn eu dioddef ar hyn o bryd, wedi eu gwaethygu gan y ffaith bod diffyg gyrwyr lorïau medrus. Sut y mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu mynd i'r afael â hyn, Prif Weinidog?