Datblygu Economaidd yn y Cymoedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 28 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:10, 28 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Mae gweinidogion yn cymryd diddordeb uniongyrchol yn natblygiad economaidd cymoedd y de. Mae fy nghyd-Weinidog Dawn Bowden yn cydgysylltu camau gweithredu sy'n parhau i lifo o waith tasglu'r Cymoedd. Yr wythnos diwethaf, roedd Gweinidog yr economi a minnau yn etholaeth yr Aelod ar adegau gwahanol, yn mynd ar drywydd buddsoddiad mewn swyddi, sgiliau a dyfodol economaidd.