Yswiriant Gwladol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 28 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:22, 28 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Joyce Watson, Llywydd. Bydd y cynnydd arfaethedig i yswiriant gwladol yn cael effaith niweidiol ar wasanaethau cyhoeddus Cymru mewn nifer o ffyrdd. Bydd cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr, er enghraifft, yn cynyddu costau i'r holl wasanaethau cyhoeddus, tra bydd cyfraniadau cyflogeion yn cael eu hysgwyddo yn anghymesur gan weithwyr â chyflogau is sy'n gwneud cymaint i ddarparu'r gwasanaethau hyn yng Nghymru.