Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 28 Medi 2021.
Diolchaf i Joyce Watson am yr hyn sy'n gwestiwn pwysig iawn. Ein hamcangyfrif cychwynnol yw y bydd y gost uniongyrchol i wasanaethau cyhoeddus Cymru o gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr rywle rhwng £80 miliwn a £90 miliwn y flwyddyn, ac nid yw hynny'n cynnwys unrhyw staff dan gontract a allai fod ganddyn nhw, fel y bydd yn gyffredin iawn ym maes gofal cymdeithasol. Mae arnaf i ofn, Llywydd, mai'r ateb i gwestiwn yr Aelod, mae'n debyg, yw 'Ni fyddwn ni byth yn gwybod', oherwydd bydd gennym ni anhryloywedd fformiwla Barnett wedi ei lapio mewn adolygiad cynhwysfawr o wariant, ac nid oes gen i unrhyw amheuaeth o gwbl y bydd Llywodraeth y DU yn honni bod yr holl gostau hynny rywsut wedi eu bodloni gan y symiau y maen nhw'n eu deillio wedyn o'r ymarfer hwnnw. Bydd yn anodd iawn yn wir gweld a yw hynny'n wir mewn gwirionedd, neu ai dim ond y lledrithiau arferol yr ydym ni'n eu gweld o gwmpas adegau gwario. Yr hyn sydd yn sicr, Llywydd, yw hyn: o'r arian y mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yn cael ei fuddsoddi mewn iechyd a gofal cymdeithasol ar ôl mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd 12 y cant llawn ohono yn dod o gyfraniadau yswiriant gwladol pobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Felly, y bobl sy'n gwneud y gwaith yw'r rhai y gofynnir iddyn nhw dalu am yr arian sy'n cael ei ddarparu. Dyna pam rydym ni wedi dweud o'r cychwyn nad yswiriant gwladol oedd y cyfrwng cywir i ddarparu'r cyllid angenrheidiol iawn ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol hynny.