Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 28 Medi 2021.
Diolchaf i'r Aelod. Mae gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Cymru yn wynebu galw cynyddol yn sgil afiechydon nad ydyn nhw'n gysylltiedig â COVID, darparu'r rhaglen brechiadau ffliw ac atgyfnerthu, yn ogystal â heriau'r pandemig parhaus. Mae meddygon teulu a'u cydweithwyr clinigol yn y gogledd yn gwneud ymdrechion enfawr i gadw eu poblogaethau yn ddiogel yn y cyfnod eithriadol sydd ohoni.