3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau Rhynglywodraethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 28 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:19, 28 Medi 2021

Fel y buasech chi yn ei ddisgwyl, rwy'n credu efallai roeddech chi'n ordeg ac yn orhael yn eich darlunio o'r sefyllfa mor bell ag y mae agwedd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol atom ni. Mae'n wir amdanoch chi, fel amdanom ni i gyd, dwi'n credu, bod eich cryfder pennaf, sef eich ffordd resymol, bwyllog, yn ceisio dwyn perswâd ar bobl, weithiau'n gallu troi yn wendid pan ŷch chi'n wynebu, hynny yw, Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol sydd ag agwedd mor afresymol, mor haerllug i'r syniadau digon rhesymol ŷch chi wedi'u cyflwyno eto'r prynhawn yma. A beth i wneud yn y sefyllfa yma ydy'r cwestiwn, a dweud y gwir.

Dwi'n ddigon cyfarwydd, yn anffodus, gyda San Steffan. Rôn i yno eto yn ddiweddar a dyw'r lle ddim wedi newid dim: yr eglwys gadeiriol yma ar lannau'r Tafwys, onid e, yn glafoerio gydag agweddau haerllug. Peidiwch â meddwl am eiliad eu bod nhw'n credu ym mhotensial rhyw bartneriaeth gydradd gyda ni fan hyn yng Nghymru a'r Alban a Gogledd Iwerddon. Teyrn a thaeog, onid e? Dyna'u hagwedd nhw, ac maen nhw, wrth gwrs, yn credu yn sofraniaeth San Steffan a San Steffan yn unig. 'Beth ŷn ni'n ei wneud yn y sefyllfa yma?' ydy'r cwestiwn, a buaswn i yn ymbil arnoch chi—. Ac mae enghraifft eto'r prynhawn yma, yr LCMs; maen nhw'n dod atom ni—mae flotilla ohonyn nhw'n dod atom ni nawr. Wrth gwrs, maen nhw'n gwybod eu bod nhw'n methu dymchwel y Senedd yma yn gyfan oll, ond beth maen nhw'n ei wneud, wrth gwrs, ydy ceisio'n tanseilio ni, fesul cam wrth gam—y Bil sybsidi yr wythnos diwethaf, Bil y farchnad fewnol; tynnu oddi ar ein seiliau ariannol dro ar ôl tro ar ôl tro. Wel, does bosib bod yn rhaid inni sefyll gyda'n gilydd a gwrthod hyn.

Gaf i awgrymu cwpwl o bethau? Mae'r adroddiad yn ddefnyddiol a dwi dal yn ddigon o economegydd i gredu mewn gwerth data. So, beth am ddangos tryloywder, er enghraifft? Beth am ddangos yn yr adroddiadau yma y nifer o weithiau, Brif Weinidog, rydych chi wedi gofyn am gyfarfodydd i drafod materion o bwys lle maen nhw wedi gwrthod neu anwybyddu'r cynigion hynny. Faint o weithiau ydych chi wedi cael gwahoddiadau yn hwyr iawn i gyfarfodydd mewn meysydd datganoledig, a'r agenda ddim wedi cael ei rhannu gyda chi na'r papurau cefndir, felly'n eich atal chi wedyn rhag cyfrannu yn rhesymol i'r drafodaeth? Gad inni weld gwir natur y berthynas yna; cael rhyw fath o log, os mynnwch chi, o natur yr ymagwedd haerllug sydd gan y Llywodraeth lawr yn San Steffan i ni fan hyn yng Nghymru ar hyn o bryd.

Gaf i hefyd ofyn i chi: a fuasech chi'n fodlon adeiladu, a dweud y gwir, ar yr hyn sydd yn sail i'r adroddiad yma—hynny yw, dangos tryloywder ynglŷn â'r berthynas—ond agor hynny mas i'r cyhoedd yng Nghymru? Felly, nid yn unig adroddiad i'r Senedd fel sydd gyda ni fan hyn, ond ymgysylltu gyda phobl Cymru, a dweud y gwir, a ddylai wybod y ffeithiau ynglŷn â'r agwedd sydd yn cael ei dangos gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, ac efallai drwy'r comisiwn cyfansoddiadol a'r sgwrs genedlaethol dŷch chi wedi cyfeirio ati.

Yn olaf, onid yr unig ffordd dŷn ni yn mynd i ddangos herfeidd-dra, a dweud y gwir—gwrthwynebiad i'r math yma o agwedd—yw ein bod ni'n cydweithio? Cydweithio fan hyn yng Nghymru ar draws pleidiau, hyd yn oed lle, wrth gwrs, rŷn ni'n anghytuno ynglŷn â'r ateb yn y pen draw o ran dyfodol cyfansoddiadol i Gymru—mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, yn dilyn beth ddywedodd y mudiadau annibyniaeth ddoe eu bod nhw'n rhan o'r sgwrs genedlaethol a bod hynny yn cael ei adlewyrchu yn y cylch gorchwyl ar ei chyfer hi—ond hefyd bod yna gydweithio ar draws y gwledydd Celtaidd. Ein bod ni, os mynnwch chi, yn creu, os oes gyda nhw eu hunolyddiaeth gyhyrog, wel gad inni gael ein cydweithio cyhyrog ar draws y gwledydd Celtaidd—ie, ar draws pleidiau, gan gynnwys, wrth gwrs, Llywodraeth yr Alban, sydd hefyd â phersbectif gwahanol ynglŷn â dyfodol yr ynysoedd hyn. Ond, yn hyn o beth, dŷn ni yn unedig yn gwrthwynebu y geidwadaeth yma o San Steffan sydd yn gwadu'n hawl ni fan hyn yng Nghymru ac yn y gwledydd eraill i ddewis ein cwys ein hunain.