4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Codi’r Gwastad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 28 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:50, 28 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

A thrwy sicrhau bod yr arian hwn ar gael i geisiadau awdurdodau lleol sy'n cystadlu â'i gilydd yn unig, mae Llywodraeth y DU hefyd yn creu bylchau ariannu sector yn fwriadol, gan gynnwys ymhlith addysg uwch ac addysg bellach, y trydydd sector a busnes. Mae'r sectorau hyn wedi manteisio i'r eithaf ar gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol i helpu i leihau gwahaniaethau mewn ymchwil ac arloesi, i gefnogi pobl sy'n agored i niwed mewn cymdeithas, ac i helpu i hybu cystadleurwydd.

Mae gennym bryderon gwirioneddol hefyd am fygythiad cynlluniau Llywodraeth y DU ar raddfa cynlluniau a ariennir gan yr UE yn y dyfodol, gan gynnwys yr hyn mae hynny'n ei olygu i Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, a phrentisiaethau. Nid yw'r gronfa codi'r gwastad yn gwireddu ei henw ar hyn o bryd, a disgwylir i bob awdurdod lleol yng Nghymru dderbyn tua £1.3 miliwn eleni. Mae'n amlwg bod y cronfeydd hyn gan y DU yn gyfystyr â gostyngiad i Gymru.

Er gwaethaf y gwrthddywediad hwn a'r risgiau brys rydym ni’n eu hwynebu yn awr, ni fu unrhyw arwyddion o welliant ers i ni drafod y cronfeydd hyn ddiwethaf ym mis Mehefin. Dim ond chwe mis sy'n weddill o'r flwyddyn ariannol hon, ac nid yw Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi unrhyw geisiadau llwyddiannus ar gyfer cronfeydd adnewyddu'r gymuned a'r cronfeydd codi'r gwastad. Mae hynny er gwaethaf yr addewidion a wnaed yn flaenorol i gyhoeddi ceisiadau ym mis Gorffennaf. Ac mae partneriaid yn iawn i ofyn sut mae prosiectau i fod i gyflawni erbyn mis Mawrth yn ôl y gofyn. Mae hwn yn oedi sy'n gadael cymunedau yn y tywyllwch ac yn peryglu'r hyn y gellir ei gyflawni i bobl a busnesau yma yng Nghymru.

Nid ydym ychwaith wedi ymgysylltu'n wirioneddol â'r ymarfer asesu ceisiadau, a gyda'n mewnbwn arfaethedig yn cael ei gyfyngu i delerau cwbl annerbyniol. Mae hon yn broses anhryloyw a phell nad yw'n cynrychioli datganoli i gymunedau lleol. Mae Llywodraeth y DU wedi gorfodi cynghorau i gystadlu a gweithredu fel gweinyddwyr, a chynigion yn cael eu hasesu yn Whitehall a phenderfyniadau ariannu’n cael eu gwneud gan Weinidogion y DU yn San Steffan.

Ac mae cynlluniau ar gyfer y gronfa ffyniant a rennir yr un mor bryderus. Ddeunaw mis ar ôl Brexit, gallwn barhau i ddisgwyl dim mwy na fframwaith gwariant lefel uchel yn adolygiad gwariant y mis nesaf. Ac eto, nid ydym yn glir o hyd ynghylch pa rôl fydd gan Lywodraethau datganoledig. Rydym hefyd yn ansicr a fydd y gronfa ffyniant a rennir hyd yn oed ar agor ar gyfer busnes y flwyddyn nesaf oherwydd yr oedi parhaus. Ni ellir disgrifio dull Llywodraeth y DU o ariannu ar ôl Brexit mewn unrhyw ffordd fel gwaith partneriaeth derbyniol, heb sôn am gysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol.

Mae hyn yn siomedig, o ystyried ymrwymiadau'r Prif Weinidog yn dilyn yr uwchgynhadledd ym mis Mehefin a fynychais gyda'r Prif Weinidog ynghylch cysylltiadau rhynglywodraethol mwy effeithiol ledled y DU, a pharodrwydd y Llywodraeth hon a'n Prif Weinidog i gydweithio'n effeithiol wrth wneud hynny.

Mae camau digyswllt ac anhrefnus Llywodraeth y DU hefyd wedi methu â chreu argraff ar grwpiau seneddol trawsbleidiol y DU, y Sefydliad Llywodraethu a Seneddau a Llywodraethau datganoledig. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Pwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol adroddiad ar y rhaglen codi'r gwastad, ac rwy’n dyfynnu:

'Mae'r cyllid sydd ar gael i gyflawni codi'r gwastad yn wahanol ac nid oes ganddo unrhyw ddiben na phwyslais strategol cydlynol cyffredinol';

'mae absenoldeb ymddangosiadol unrhyw ymgysylltiad strategol ystyrlon â'r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch yr agenda codi'r gwastad, yn ymhelaethu ar y diffyg eglurder a phwyslais o amgylch y polisi mawr hwn.'

Ac ar y gronfa ffyniant a rennir, dywedodd y Sefydliad Llywodraethu ym mis Gorffennaf:

'bydd llywodraeth y DU yn gwario ar swyddogaethau polisi sydd wedi'u datganoli'n bennaf. Rydym wedi amlinellu'r risg y bydd hyn yn arwain at ddyblygu swyddogaethau a darnio'r gwasanaethau yn ddi-fudd.'

Mae'r Uchel Lys hefyd wedi cytuno i glywed her gyfreithiol a gyflwynwyd gan y Good Law Project am Lywodraeth y DU yn defnyddio'r gronfa codi'r gwastad er budd gwleidyddol, yn hytrach nag angen.

Codwyd pryderon cynyddol am y problemau sy'n dod i'r amlwg a'r bylchau cyllido sy'n wynebu sectorau hefyd gyda mi gan bartneriaid yng Nghymru, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru a Phrifysgolion Cymru. Er gwaethaf rhybuddion o'r fath a chyngor gonest, mae Llywodraeth y DU wedi methu â gwrando, penderfyniad a fydd yn costio cyfleoedd gwaith i Gymru ac yn tanseilio prosiectau y mae mawr eu hangen.

Dirprwy Lywydd, nid yw'n glir eto beth fydd effaith y dull hwn, ond yr oeddwn yn fodlon cefnogi gwelliannau Plaid Cymru yn ystod y ddadl ym mis Mehefin. Gallaf gadarnhau unwaith eto heddiw y byddwn yn cynnal asesiad effaith pan fo'n ymarferol, fel y cytunwyd bryd hynny. Dylai Gweinidogion y DU nodi'r sefyllfa fwyafrifol glir yn y Senedd hon. Yn wir, cynigiwyd maniffesto i bobl Cymru a oedd yn cymeradwyo cynlluniau Llywodraeth y DU yn etholiadau'r Senedd eleni, ond ni chafodd hynny gefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru, fel y gwyddom. Mae mwyafrif clir o ran dull 'wedi’i wneud yng Nghymru' sy'n parchu datganoli.

Mae ein fframwaith ein hunain ar gyfer buddsoddi arian newydd yr UE yn adeiladu ar flynyddoedd o ymgysylltu â phartneriaid. Mae'n seiliedig ar dystiolaeth a chytundeb, gyda blaenoriaethau clir i Gymru, a dyma sut mae dull tîm Cymru yn edrych. Mae ein cynlluniau'n dod â phŵer a chyllid yn nes at gymunedau drwy drosglwyddo cyllid a chyfrifoldebau i'r cyd-bwyllgorau corfforaethol newydd. Mae'r fframwaith hefyd yn cydnabod mai rhai ymyriadau, fel prentisiaethau a chymorth busnes, yw'r rhai mwyaf cost-effeithiol a hygyrch ar lefel genedlaethol. Rydym hefyd wedi comisiynu cyngor pellach gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i helpu i gynllunio'r strwythurau llywodraethu aml-lefel gorau ar gyfer datblygu economaidd yng Nghymru. Ac eto, dyma sut mae dull partneriaeth go iawn yn edrych.

Dirprwy Lywydd, rwyf wedi egluro mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd Michael Gove ein bod yn agored i drafodaethau ystyrlon ar y ffordd orau o gydweithio i sicrhau bod y cronfeydd hyn yn llwyddiant. Mae gan Lywodraeth y DU gyfle i ddangos ei bod wedi gwrando ac i ddod â chyfnod i ben lle mae'n dweud wrth Gymru, 'Fe gewch chi'r hyn rydych chi’n ei gael.' Ni allai unrhyw Lywodraeth yng Nghymru dderbyn y dull hwnnw gan unrhyw Lywodraeth yn y DU, ac ni ddylai wneud hynny.