5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 28 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:40, 28 Medi 2021

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, fel y dywedoch chi. Cyn i fi droi at y cynnig sydd o'n blaenau ni, mi hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ymateb i adroddiad y pwyllgor cyn y ddadl. Wedi dweud hynny, mi fydd yr Aelodau yn gweld bod diffyg eglurder yn dal i fod ynghylch sawl mater allweddol, ac mae gen i ofn nad yw'r ymateb yn symud pethau ymlaen mewn ffordd y bydden ni wedi gobeithio ei weld. 

Fel pwyllgor, rŷm ni wedi bod yn glir mai'r ffordd fwyaf priodol i ddeddfu dros Gymru ar faterion amgylcheddol, wrth gwrs, yw trwy Fil a wneir gan Senedd Cymru. Rŷm ni'n deall bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu dod â Bil o'r fath i'r Senedd, ond rŷm ni hefyd yn gwybod y gallai hynny fod rai blynyddoedd i ffwrdd. Felly, rŷm ni mewn sefyllfa nawr o orfod dewis rhwng Bil y Deyrnas Unedig neu'r posibilrwydd neu'r tebygolrwydd o oedi am ddwy, tair, efallai mwy o flynyddoedd tra'n bod ni'n aros am Fil Cymreig. Pa ryfedd felly y bydd rhai Aelodau o bosib yn teimlo mai cydsynio i'r darpariaethau ym Mil y Deyrnas Unedig yw'r unig ddewis go iawn sydd ganddyn nhw os ydyn nhw am weld polisïau amgylcheddol pwysig ar y llyfr statud? 

Nawr, yn y Siambr hon yr wythnos diwethaf fe ddywedodd y Cwnsler Cyffredinol ei bod hi'n amharchus, ac mi wnaf i ddyfynnu, i gyhoeddi

'deddfwriaeth sy'n amlwg yn mynd i effeithio arnom ond lle nad oes gennym unrhyw ymgysylltiad priodol ar y ddeddfwriaeth honno, ar y materion hynny a allai effeithio arnom, a chaiff y ddeddfwriaeth honno ei chyflwyno i ni ar y funud olaf fwy neu lai, fel pe bai'n fait accompli.'

Nawr, roedd y Cwnsler Cyffredinol, wrth gwrs, yn siarad am y ffordd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn aml iawn yn trin Llywodraeth Cymru, ond mi allai'n hawdd fod wedi bod yn siarad am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r broses LCM yn y Senedd hon. Fel pwyllgor, rŷm ni'n pryderu bod patrwm yn dod i'r amlwg fan hyn: mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen am ddeddfwriaeth, ond mae'n araf iawn i gyflwyno ei chynigion ei hun, os, yn wir, o gwbl. 

Gadewch i ni ystyried mater llywodraethiant amgylcheddol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol o'r posibilrwydd y bydd yna fylchau mewn llywodraethiant amgylcheddol yng Nghymru ers canlyniad y refferendwm yn 2016. Cyn hir, Cymru fydd yr unig genedl yn y Deyrnas Unedig heb ddeddfwriaeth ar waith ar gyfer system llywodraethiant amgylcheddol bwrpasol. Does dim Bil llywodraethiant amgylcheddol ym mlwyddyn gyntaf rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth yma, ac felly mae hynny bum mlynedd ar ôl y refferendwm. 

Maes polisi arall yn y Bil sy'n destun yr LCM heddiw, wrth gwrs, yw aer glan, fel glywon ni gan y Gweinidog yn gynharach—pwnc sydd â chefnogaeth drawsbleidiol yn y Siambr hon. Nawr, fe gynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar Bapur Gwyn ar y pwnc yma cyn yr etholiad, ond hyd yn oed eto does dim Bil ym mlwyddyn gyntaf eu rhaglen ddeddfwriaethol. Gweinidog, ble mae'r Biliau Cymreig pwysig yma? Fe wnaeth y pwyllgor argymell y dylech chi ymrwymo i gyflwyno'r Biliau yma. os nad yn y flwyddyn gyntaf, yna yn ail flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol. Rŷch chi wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw mewn egwyddor yn unig, felly does dim ymrwymiad i wneud hynny a dydyn ni felly dal ddim pellach ymlaen, mewn gwirionedd. 

Nawr, mae'r pwyllgor yn poeni y gallai'r rheswm dros hyn fod yn ddiffyg capasiti oddi fewn i adran gyfreithiol Llywodraeth Cymru, ac rŷm ni yn deall, wrth gwrs, ac yn gwerthfawrogi'r angen i gydbwyso blaenoriaethau a rheoli adnoddau. Mae'n rhaid cydnabod bod hyn wedi bod yn anodd dros y blynyddoedd diwethaf, yn gyntaf yn sgil Brexit ac, wrth gwrs, yn fwy diweddar oherwydd COVID. Ond dydy hynny ddim yn newid y ffaith ein bod ni fel pwyllgor yn pryderu y gallai diffyg capasiti fod yn creu oedi cyn cyflwyno deddfwriaeth amgylcheddol allweddol. Ond mi fyddem ni hyd yn oed yn fwy pryderus pe bai Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i brinder staffio, yn dewis defnyddio Biliau San Steffan yn hytrach na Biliau Cymreig i ddeddfu mewn meysydd datganoledig. 

Ar y mater hwn, mae'r Gweinidog yn dweud wrthym ni fod adnoddau yn cael eu hadolygu yn rheolaidd er mwyn lliniaru risgiau. 'Does dim byd i'w weld fan hyn', medden nhw, 'a does dim problemau gyda diffyg capasiti.' Ond mewn ymateb i argymhelliad diweddarach, mae'r Gweinidog yn dweud bod gwaith arall yn cael ei ohirio oherwydd cyfyngiadau adnoddau. Unwaith eto, dydyn ni ddim pellach ymlaen.

O ystyried y dewis sydd ger ein bron, rŷm ni fel pwyllgor wedi argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau ym Mil y Deyrnas Unedig. Ond—ac mae e'n 'ond' arwyddocaol a phwysig—rŷm ni wedi bod yn glir y dylai hynny fod yn amodol ar ymateb boddhaol gan Lywodraeth Cymru i argymhellion penodol yn ein hadroddiad ni fel pwyllgor o'r Senedd hon. Felly gadewch i mi amlinellu yn gryno ein meddylfryd ni y tu ôl i rai o'r argymhellion hynny.