Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 28 Medi 2021.
Rŷn ni fan hyn yn Aelodau o Senedd Cymru mewn cyfnod ble mae Llywodraeth San Steffan yn tanseilio ein setliad datganoledig—mae hynny yn ffaith. Gwrandewch ar y rhifau: yn y pedwerydd Senedd, wyth Bil San Steffan angen cydsyniad; nawr, yn y chweched Senedd, yn barod 13 o Filiau. Mae'n digwydd. Dim cyd-ddigwyddiad yw hyn, ond cynllun pendant gan Lywodraeth Boris Johnson i dynnu y pwerau i ffwrdd ohonom ni yn dawel bach ond yn gyson ar hyd yr amser.