Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 28 Medi 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. I ddechrau, hoffwn i ddiolch i'r Aelodau am eu sylwadau a'u harsylwadau eang eu cwmpas ar y memorandwm heddiw. Fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, mae'r Bil hwn yn caniatáu i ni ddatblygu ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol, lle mae amcanion amgylcheddol yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol newydd.
I fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau sydd wedi eu codi heddiw, ac yn arbennig yr y gwnaeth Llyr ei godi yn rhinwedd ei swydd yn Gadeirydd y pwyllgor, roeddwn i'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am roi'r cyfle i mi ddod i roi tystiolaeth yn bersonol ac am y gyfres o gwestiynau a ofynnwyd. Fe wnaethom weithio'n galed iawn i gael yr ymateb yn ôl i'r pwyllgor cyn gynted â phosibl. O ran argymhelliad 2 yn benodol, a nodwyd ganddo, i fod yn glir iawn, rydym yn sefydlu'r ymrwymiad i ysgrifennu at y pwyllgor polisi perthnasol i roi gwybod iddo am ein bwriad i gydsynio, ac rydym yn gwbl benderfynol o sicrhau y bydd y Senedd yn cael mynegi barn cyn i'r Gweinidog roi cydsyniad. Felly, nid oes unrhyw fwriad yma i ddileu gallu'r Senedd i graffu ar ddeddfwriaeth. Rwy'n derbyn yn llwyr fod gan y Senedd y swyddogaeth honno, yn gywir ac yn briodol, a'i bod yn cyflawni'r swyddogaeth honno yn dda a'n bod ni eisiau iddi wneud hynny, er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth y gorau y gall fod i bobl Cymru. Rwy'n credu bod nifer o bobl wedi gwneud y pwynt hwnnw, ac roeddwn i'n awyddus i fynegi fy nghytundeb chwyrn ag ef.
Ac yna dim ond i ddweud, wrth gwrs, ein bod ni hefyd yn cytuno, fel y dywedais i yn fy sylwadau agoriadol, y dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd datganoledig gael ei deddfu gan y Senedd wrth gwrs. Ond, weithiau, mae'n synhwyrol ac yn fanteisiol ceisio darpariaethau mewn Bil y DU gyda chydsyniad y Senedd, a dyna pam yr ydym ni yma heddiw. Yn benodol, rydym ni eisiau pwysleisio'r angen am gydlynu ledled y DU ar gyfer rhai o'r cynlluniau sy'n cael eu cynnwys yn rhan o'r Bil hwn, yn enwedig y cynllun cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig a'r cynllun dychwelyd ernes. Fel y bydd yr Aelodau yn ei wybod, mae gennym ni ffin hydraidd iawn yng Nghymru, ac mae llawer iawn o bobl yn croesi'r ffin honno yn ddyddiol, i'r ddau gyfeiriad, sawl gwaith. Rydym ni eisiau iddyn nhw allu dwyn i gyfrif y cynhyrchwyr sy'n cynhyrchu eu nwyddau yng Nghymru ac yn eu gwerthu yn Lloegr ac sy'n cynhyrchu eu nwyddau yn Lloegr ac yn eu gwerthu yng Nghymru. Rydym ni hefyd eisiau i bobl allu dychwelyd eu poteli a brynwyd yng Nghymru yn Lloegr, ac i'r gwrthwyneb. Mae'n eithriadol o bwysig bod gennym ni y lefel honno o gydgysylltu er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu gwneud y peth iawn.
Bydd aelodau'r Senedd hon wedi fy nghlywed i'n dweud yn aml iawn mai platfform y Llywodraeth yw sicrhau mai gwneud y peth iawn i bob dinesydd yng Nghymru, o ran yr argyfyngau hinsawdd a natur, yw'r hyn yr ydym ni i fod i'w wneud, a'r hyn y mae'r cydgysylltu hwn yn ei ganiatáu yw i bobl wneud y peth iawn pan fyddan nhw'n byw yn agos at y ffin, ac mae hynny'n gyfran fawr iawn o boblogaeth Cymru. Felly, rwy'n credu bod hynny yn rheswm da iawn dros ddefnyddio Bil y DU yn yr achos hwn, i sicrhau bod cydgysylltu ar draws y darn.
O ran y pethau eraill yr oedd pobl yn bryderus iawn yn eu cylch, rwy'n derbyn y pryder. Rydym ni, wrth gwrs, wedi cymryd camau i ddileu'r defnydd cydredol o bwerau, lle bynnag y bo hynny yn bosibl, ac wrth gyflwyno deddfwriaeth Cymru. A gallaf sicrhau'r Aelodau fod gan y Llywodraeth bob bwriad i wneud hynny. Felly, o ystyried yr angen am gydgysylltu, o ystyried yr angen i sicrhau bod Cymru yn aros yn unol â'r arfer amgylcheddol gorau oll, ac o gofio'r angen i'r Senedd roi ei chydsyniad a'r craffu da iawn y mae'r ddau bwyllgor eisoes wedi ei wneud ar y Bil a'r cyfraniadau hynod ragorol a wnaeth eu Cadeiryddion heddiw, byddwn i'n argymell bod y Senedd yn cytuno ar y memorandwm yn yr achos hwn. Diolch yn fawr.