Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 28 Medi 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n fy nigalonni i glywed y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud, wythnos ar ôl wythnos, eu bod yn credu bod Cymru rywsut yn cael ei gorariannu, neu hyd yn oed yn cael ei hariannu'n ddigonol, a byddwn i'n gofyn i Geidwadwyr Cymru wneud eu hymchwil eu hunain ac ystyried rhai o'r ffeithiau, y ffigurau, y cyfrifoldebau. Edrychwch ar danariannu hanesyddol y rheilffyrdd yng Nghymru, er enghraifft. Gofynnwch i chi'ch hun a allwch chi fod yn fodlon â hynny. Edrychwch ar y ffordd y mae HS2 yn cael ei gategoreiddio gan Lywodraeth y DU fel cynllun Cymru a Lloegr, er bod ffigurau Llywodraeth y DU ei hun yn dangos y bydd yn niweidiol i Gymru, ac yn enwedig y de-orllewin, a gofynnwch i chi'ch hun a ydych chi'n fodlon â hynny. Ac ystyriwch a ydych chi'n fodlon na ddylai'r pwyntiau rheoli ffiniau newydd ddenu unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, er eu bod yn newydd a heb eu hariannu o ganlyniad i Brexit. Ystyriwch a ydych chi'n credu y dylai porthladdoedd rhydd yng Nghymru ddenu dim ond £8 miliwn o gyllid, o'i gymharu â phob porthladd rhydd yn Lloegr sy'n cael £25 miliwn. Os ydych chi'n hapus ac yn fodlon ar hynny i gyd, eglurwch chi hynny i'ch etholwyr. Ond os ydych chi, ar ôl ystyried y ffeithiau a'r cyllid a'r cyfrifoldebau, mor ddig ag yr ydym ni ar y meinciau hyn, yna gwnewch rywbeth am hyn a gweithiwch gyda ni i ddylanwadu ar eich cydweithwyr yn San Steffan i wneud hyn yn iawn.
Ni chafodd fformiwla Barnett erioed ei gynllunio ar gyfer hyn; mae £600 miliwn dros 10 i 15 mlynedd yn swm enfawr o gyllid, ac o ble y bydd yn dod? Bydd yn dod o ysgolion, bydd yn dod o ysbytai, bydd yn dod o gynnal a chadw ffyrdd a bydd yn dod o dai cymdeithasol. Nid yw'n dod o'r unlle.
Rwyf eisiau cofnodi a rhoi ychydig o eglurder ynghylch y £31 miliwn a ddisgrifiwyd hefyd. Felly, roedd hwnnw'n swm o arian a negodwyd gennyf i gyda Llywodraeth y DU ar gyfer sefyllfa pe byddai Llywodraeth y DU o'r farn na allem ni fforddio gwario hwnnw ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, yna byddai'n darparu'r cyllid ychwanegol. Roedd yn fath o warant, ac roedd yn ddefnyddiol iawn gan ei fod yn caniatáu i ni gael y sicrwydd hwnnw a'r hyder hwnnw i symud ymlaen a gwneud cynlluniau a buddsoddiadau yn syth ar ôl hynny. Fodd bynnag, bydd cyd-Aelodau yn ymwybodol y bu gan Lywodraeth Cymru gyllid sylweddol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol o ganlyniad i gyhoeddiadau hwyr am symiau canlyniadol COVID gan Lywodraeth y DU a hefyd ein rheolaeth well o gyllid yma yng Nghymru o ran profi, olrhain, diogelu a chyfarpar diogelu personol, er enghraifft. Ac, o'r herwydd, cymerodd Llywodraeth y DU y £31 miliwn hwnnw o'r gronfa COVID, gan felly beidio â darparu'r cyllid ychwanegol hwnnw. Felly, rwy'n credu ei bod yn werth cael y ffeithiau am hynny.
Yr hyn nad wyf eisiau ei wneud heddiw yn y trafodaethau hyn yr ydym ni wedi bod yn eu cael am domenni glo yw achosi braw, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n bwysig iawn yn fy marn i, oherwydd rydym ni wedi bod yn cael dealltwriaeth dda iawn a gwell o'n tomenni glo ledled Cymru, ac erbyn hyn mae gennym ddarlun llawer, llawer gwell o'r nifer a'u statws presennol, ac mae'n amlwg ein bod wedi sefydlu trefn archwilio a chynnal a chadw gadarn drwy weithio gyda'r Awdurdod Glo—Awdurdod Glo'r DU—ac awdurdodau lleol. Mae'r rhaglen arolygu yn sicrhau bod y tomenni hynny'n cael eu harchwilio'n rheolaidd a bod unrhyw waith cynnal a chadw yn cael ei nodi a'i wneud o fewn amserlenni penodol i liniaru cymaint o risgiau â phosibl. A bydd y cylch nesaf o arolygiadau gaeaf ar y tomenni risg uwch yn dechrau'r wythnos nesaf a bydd yn cael ei gynnal ar y cyd gan yr Awdurdod Glo ac awdurdodau lleol. Felly, rwyf eisiau rhoi'r sicrwydd hwnnw i gymunedau a allai fod wedi'u hanesmwytho gan y sylw sydd ar domenni glo ar hyn o bryd. Yn ogystal â hyn, rydym hefyd yn treialu treialon technolegol newydd ar domenni dethol, gan dreialu, er enghraifft, offer synhwyro sy'n cael ei roi ar y tomenni i fonitro symudiad, yn ogystal â delweddau lloeren i fesur lefelau lleithder pridd o bell islaw'r ddaear. Ac os oes unrhyw un yn pryderu am domen yn eu hardal, gan gynnwys y systemau draenio, yna mae llinell gymorth rhadffôn y gallant ei ffonio, a chyfeiriad e-bost, ar wefan Llywodraeth Cymru. Ac yn dilyn y stormydd a'r tirlithriadau yn ôl yn Nhylorstown a Wattstown, gwnaethom roi llythyr o gysur i awdurdodau lleol fel y gallent fwrw ymlaen ac ymgymryd â'r gwaith diogelwch uniongyrchol hwnnw heb orfod poeni o ble y byddai'r arian yn dod, ac rwy'n credu bod awdurdodau lleol hefyd yn croesawu hynny.
Felly, gadewch i ni adlewyrchu yn olaf fod y cymunedau hyn wedi gwneud aberth sylweddol o ran y diwydiant glo, yn enwedig drwy'r tomenni glo ond hefyd mewn cymaint o ffyrdd eraill o ran yr effeithiau ar iechyd y mae'r cymunedau hyn yn dal i'w teimlo, ac rwy'n credu ei bod yn bryd cydnabod bod hyn yn rhagflaenu datganoli ac mae'n bryd, mewn gwirionedd, dangos ein hymrwymiad ar y cyd, gyda Llywodraeth y DU, i'r cymunedau hyn.
Cefais fy nghalonogi mewn gwirionedd gan sylwadau Darren Millar heddiw yn natganiad y Prif Weinidog ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Dywedodd,
'Rwyf i a fy nghyd-Aelodau ar feinciau Ceidwadwyr Cymru yn cytuno'n llwyr fod angen dull cydweithredol ar y cyd i fynd i'r afael â'r pryderon... o gofio eu bod yn... etifeddiaeth o'r cyfnod cyn datganoli.'
Felly, roedd Darren Millar yn cydnabod bod hwn yn fater cyn datganoli, ac roedd Darren Millar yn cydnabod bod gan Lywodraeth y DU ran i'w chwarae yn hyn hefyd. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle yn awr i bob un ohonom ni, yn drawsbleidiol, anfon neges gref iawn at Lywodraeth y DU. Siawns nad yw hyn yn rhywbeth y byddai pobl Cymru, ac yn enwedig yn y cymunedau glofaol hynny, yn disgwyl i ni ei wneud ac yn haeddu i ni ei wneud ar sail drawsbleidiol. Diolch.