Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 29 Medi 2021.
Nawr, er fy mod i a'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn herio'r bwrdd iechyd i gynyddu cyflymder newid mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl—ac mae'r ddwy ohonom wedi codi hyn gyda'r bwrdd iechyd ar sawl achlysur—rwy'n cydnabod yr effaith y bydd y lefel hon o graffu dros gynifer o flynyddoedd yn ei chael ar forâl staff. I ddechrau, hoffwn gofnodi fy mod yn cydnabod ymdrechion holl staff y bwrdd iechyd ac yn gwerthfawrogi'r gwaith a wnânt.
Yn 2013, comisiynwyd Robin Holden gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i gynnal adolygiad o uned seiciatrig Hergest yn dilyn cwynion gan staff, ac rwy'n gyfarwydd â chynnwys yr adroddiad, a rhaid imi ddweud ei fod yn ddeunydd darllen anghyfforddus. Nawr, mater i'r bwrdd iechyd yw'r alwad am gyhoeddi'r fersiwn lawn heb ei golygu o adroddiad Holden, a bydd rhai'n ymwybodol fod achos ar y gweill ar hyn o bryd gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Felly, nid yw'n briodol i mi wneud sylwadau ar yr agwedd benodol hon yn y ddadl. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod yn disgwyl i'r bwrdd iechyd gyflawni ei rwymedigaethau statudol i bobl gogledd Cymru, o ran bod yn agored a thryloyw, a hefyd, yn bwysig, i'w staff, drwy ddiogelu cyfrinachedd pobl sy'n lleisio pryderon. Wrth gwrs, rhaid i'r bwrdd iechyd sicrhau hefyd ei fod yn cyflawni ei rwymedigaeth gyfreithiol mewn perthynas â diogelu data.
Mae bob amser yn bwysig nodi, yn dilyn yr adolygiad, fod adroddiad cryno wedi'i gyhoeddi gan y bwrdd iechyd yn 2015, a oedd yn cynnwys yr argymhellion a wnaed gan Robin Holden. Yn dilyn hynny, comisiynodd y cyfarwyddwr meddygol gweithredol a'r cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth waith i sicrhau bod argymhellion adroddiad Holden wedi'u gweithredu, ac fe'i cyflwynwyd ar gyfer craffu gweithredol ac i bwyllgor ansawdd, diogelwch a phrofiad y bwrdd iechyd ym mis Ionawr 2021. Nawr, rhoddodd hyn sicrwydd fod camau wedi'u cymryd ac yn parhau i fod ar waith yn erbyn pob un o argymhellion yr adroddiad, ac mae fy ffocws yn awr ar sicrhau bod y bwrdd iechyd yn parhau i weithredu ar yr argymhellion hynny.
Nawr, fel y gwyddom i gyd, roedd adroddiad Holden yn un o nifer o adolygiadau annibynnol a gomisiynwyd gan y bwrdd iechyd mewn ymateb i bryderon am ansawdd gofal iechyd meddwl yng ngogledd Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac a arweiniodd at ei osod dan fesurau arbennig yn 2016. Nawr, ers hynny, mae llawer wedi digwydd, a gwnaeth y bwrdd iechyd gynnydd yn erbyn y cerrig milltir a nodir yn y fframwaith mesurau arbennig, gan gynnwys yn benodol gwella llywodraethu ac ansawdd, a gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl. Fodd bynnag, rwy'n glir fod llawer i'w wneud o hyd, a dyna pam y mae'r bwrdd iechyd yn parhau i fod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu. Rhaid inni gofio bod ymyrraeth wedi'i thargedu yn lefel uchel o ymyrraeth gyda gwaith craffu parhaus gan Lywodraeth Cymru sy'n cydnabod bod y bwrdd iechyd yn parhau i fod ar daith wella. Penodwyd prif weithredwr newydd i lywio'r bwrdd iechyd ar ei daith wella, ac mae'n amlwg fod llawer mwy o drosolwg a chraffu ar wasanaethau iechyd meddwl ar lefel y bwrdd erbyn hyn.
Mewn iechyd meddwl, mae rhan o'r sefydliad a welodd newid staff parhaus wedi'i sefydlogi bellach, rwy'n falch o ddweud, ac mae'r sefydlogrwydd hwn ar lefel reoli wedi dechrau cynyddu hyder yn y gwasanaeth ynglŷn â chyflawni. Mae gwelliannau i strwythurau sefydliadol a strwythurau llywodraethu wedi'u rhoi ar waith gyda ffordd systematig o nodi ac adrodd ar broblemau wrth iddynt ddigwydd. Mae'r un gwelliannau hefyd yn caniatáu i newidiadau gael eu gweithredu'n fwy effeithlon ac effeithiol. Mae gwaith arloesol a arferai gael ei weld mewn pocedi ynysig bellach yn cael ei ledaenu'n llawer ehangach, ac mae tystiolaeth glir o lawer mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau. Er enghraifft, mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a oedd gynt yn cael eu rhedeg fel tri gwasanaeth is-ranbarthol gwahanol a digyswllt wedi'u dwyn ynghyd, gan ei gwneud yn bosibl cynnal arferion gorau ar draws y gwasanaeth cyfan a chaniatáu gwasanaeth mwy integredig a chydlynol. Ac erbyn hyn mae llawer mwy o aliniad rhwng gwasanaethau iechyd meddwl oedolion yn y bwrdd iechyd a'r rhai sydd ar waith i gefnogi plant a phobl ifanc.
Mae trosolwg strategol llawer cryfach hefyd ar y tair ardal ranbarthol, sydd mor bwysig mewn ardal ddaearyddol fawr fel Betsi Cadwaladr. Mae menter 'Mi FEDRAF' yn enghraifft dda arall o welliannau arloesol i wasanaethau iechyd meddwl, sy'n darparu mynediad hawdd at gymorth a chynnig dewis arall yn lle mynd i'r ysbyty. Mae'r bwrdd iechyd bellach wedi ail-lansio ei strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ar gyfer gogledd Cymru, sy'n arwain at weithio mewn partneriaeth llawer cryfach gyda phartneriaid awdurdodau lleol a thrydydd sector ar draws y rhanbarth—felly, yn hanfodol i gefnogi elfen ataliol ac ymyrraeth gynnar iechyd meddwl.
Yn unol â'r fframwaith ymyrraeth wedi'i thargedu a roddwyd i'r bwrdd iechyd ym mis Chwefror, mae'r bwrdd wedi cymeradwyo'r pedwar matrics aeddfedrwydd ac asesu llinell sylfaen ar gyfer iechyd meddwl yn ei gyfarfod bwrdd ar 20 Mai. Nawr, mae'r matricsau'n fanwl iawn, ac rwy'n bwriadu iddynt fod yn ddogfennau deinamig sy'n cael eu hadolygu a'u diweddaru'n rheolaidd, ac maent yn canolbwyntio ar feysydd i'w gwella. Y bwrdd iechyd sy'n berchen arnynt, ac fe'u datblygwyd gyda'r staff ar lawr gwlad sydd wedi dangos crebwyll gwirioneddol ynghylch yr anawsterau y maent yn eu hwynebu a'r her sydd o'u blaenau. Felly, ceir llawer o gyflawniadau allweddol, ac rwy'n hapus i ysgrifennu at Aelodau sy'n gofyn i mi nodi'r rheini.
Nawr, rwy'n falch o ddweud bod swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â'r bwrdd iechyd i adolygu cynnydd yn erbyn y matricsau, ac rwy'n croesawu'r tryloywder a'r agwedd agored a ddangosir gan y bwrdd iechyd fel rhan o'r broses hon. Mae'r bwrdd hefyd wedi bod yn realistig iawn, ac yn ei asesiad ei hun mae wedi cydnabod bod llawer o waith i'w wneud. Ac er fy mod yn cydnabod bod y sgoriau llinell sylfaen yn isel, maent yn adlewyrchu arfarniad gonest o'r sefyllfa y mae'r bwrdd iechyd ynddi. Mae'n bwysig nodi nad yw'r sgoriau hyn yn adlewyrchu'r maes cyfan, ond yn hytrach, y meysydd sy'n destun ymyrraeth wedi'i thargedu. Maent yn gosod llinell sylfaen gref y gallwn olrhain cynnydd yn ei herbyn drwy'r pedwar matrics aeddfedrwydd. Bydd adfer a thrawsnewid yn cymryd amser, ond rydym wedi'i gwneud yn glir yn gyson i'r bwrdd iechyd mai gallu dangos tystiolaeth o welliannau i wasanaethau yw'r allwedd i symud ymlaen ar draws y matricsau gyda golwg ar isgyfeirio pellach.
A'r wythnos diwethaf, cafwyd trafodaeth bord gron ar iechyd meddwl dan gadeiryddiaeth prif weithredwr GIG Cymru, a oedd hefyd yn cynnwys cadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd ac uwch-arweinwyr y gwasanaeth iechyd meddwl. Diben y ford gron, a oedd hefyd yn cynnwys swyddogion Archwilio Cymru, AGIC a Llywodraeth Cymru, oedd agor trafodaeth onest ac agored ar sefyllfa flaenorol y bwrdd iechyd lleol, asesu'r sefyllfa bresennol a gwneud yn siŵr fod y mecanweithiau cywir bellach ar waith i sicrhau gwelliannau i wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru. Ac rwy'n dawel fy meddwl bod yna gytundeb eang, yn dilyn y cyfarfod hwnnw, ynglŷn â natur agored a thryloyw y bwrdd iechyd.
Ond rwyf hefyd am gydnabod y digwyddiadau trasig yn ddiweddar yn y bwrdd iechyd, a gallaf sicrhau'r Aelodau fod y digwyddiadau hyn wedi'u cofnodi'n ffurfiol fel rhan o bolisi cofnodi digwyddiadau cenedlaethol GIG Cymru, ac maent yn destun ymchwiliad. Rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd gynnal adolygiad amserol i sicrhau bod materion diogelwch uniongyrchol yn cael eu nodi a bod camau'n cael eu rhoi ar waith yn eu cylch, ac i leihau'r risg o niwed i gleifion. Dylai prosesau gefnogi diwylliant cyfiawn i sefydliadau a staff allu teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i nodi, adrodd a dysgu o ddigwyddiadau diogelwch cleifion.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro, ac yn bwysig, i gefnogi'r bwrdd iechyd. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd sy'n gysylltiedig â phroses ffurfiol yr ymyrraeth wedi'i thargedu rhwng swyddogion a'r bwrdd iechyd, yn ogystal â thrafodaethau rheolaidd ar berfformiad ac ansawdd a diogelwch. Mae'r rhain wedi'u gwreiddio mewn her gadarn, ond byddwn hefyd yn ystyried pa gymorth pellach y gallwn ei gynnig fel Llywodraeth. Mae'n amlwg fod yna wir awydd i gyflawni newid a sicrhau gwelliant, a'n dyletswydd i bobl gogledd Cymru yw cefnogi'r bwrdd iechyd i gyflawni ar eu rhan. Diolch, Lywydd.