9. Dadl Fer: Cyhoeddi adroddiad Holden — Amser ar gyfer tryloywder ar wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:05, 29 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Bedair blynedd ar ôl i mi fynegi pryderon wrth Lywodraeth Cymru am y tro cyntaf, rhybuddiodd adroddiad Holden yn 2013, a gomisiynwyd ar ôl marwolaethau cleifion a chwynion gan 42 o staff, fod uned seiciatrig Hergest yn Ysbyty Gwynedd mewn trafferthion difrifol. Deallaf fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gofyn i staff a gafodd eu beirniadu yn adroddiad Holden am roi bywydau mewn perygl i ysgrifennu'r papur at y bwrdd. Ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrthod datgelu'r adroddiad llawn, dyfarnodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth y dylai'r bwrdd iechyd ddatgelu copi llawn gyda dim ond enwau unigolion a oedd yn destun y cwynion wedi'u hepgor. Fodd bynnag, mae Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru yn dweud na allant roi unrhyw gamau ar waith oherwydd absenoldeb manylion a gwybodaeth benodol.

Rhaid inni beidio â chaniatáu i hyn gael ei ddiystyru fel hen hanes. Fel y clywsom, mae dau glaf yn unedau iechyd meddwl gogledd Cymru wedi crogi eu hunain ac un wedi ceisio crogi ei hun dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae teuluoedd yn nodi methiant diamod y fframwaith rheoleiddio i ymateb i Holden gan bob corff statudol. Mae'r cyfrifoldeb bellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau tryloywder ac i ddangos nad yw'n rhan o unrhyw ymgais i gelu ffeithiau.