Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 29 Medi 2021.
Gallaf gadarnhau bod fy swyddogion wedi drafftio canllawiau ‘Diogelu Cymru yn y gwaith’, ac wrth wneud hynny, wedi ymgynghori â chydweithwyr yn y maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Cafodd y canllawiau eu trafod a'u cymeradwyo wedyn gan y Cabinet. Mae'r canllawiau'n nodi'r rhwymedigaethau ar bobl sy'n gyfrifol am adeiladau sy'n agored i'r cyhoedd neu lle mae gwaith yn digwydd, a mesurau rhesymol y mae'n rhaid eu hasesu ac asesiadau risg y mae'n rhaid eu cwblhau gyda'u staff a'u cynrychiolwyr.