Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 29 Medi 2021.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gefnogi datblygu economaidd yng ngorllewin Cymru a chyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru sy'n fwy gwyrdd, yn fwy cyfartal ac yn ffyniannus. Mae ein cynllun gweithredu ar weithgynhyrchu, a lansiwyd ym mis Chwefror 2021, yn darparu ffocws ar gyfer diogelu gweithgynhyrchu ledled Cymru yn y dyfodol.