Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 29 Medi 2021.
Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o uchelgais yr arbenigwyr twristiaeth seryddiaeth, Awyr Dywyll Cymru, i agor planetariwm cenedlaethol i Gymru ar safle hen lofa'r Tŵr yn Hirwaun. A ydych yn cytuno y gallai'r cyfleuster seryddiaeth arfaethedig hwn roi hwb sylweddol i economi twristiaeth Cymoedd de Cymru, gan adeiladu ar lwyddiant Zip World ar yr un safle a gwella ymhellach adfywiad economaidd ardal Blaenau'r Cymoedd?