Twf Diwydiannol yng Ngorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:09, 29 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Weinidog, hoffwn groesawu'r buddsoddiad o £5 miliwn gan gronfa amaethyddol Ewropeaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu gwledig i ganolfan botelu llaeth yn fy nhref enedigol, Hwlffordd. Ar ôl ei chwblhau, bydd ganddi'r capasiti i botelu llaeth a gynhyrchir yng Nghymru a dyna fydd y cyfleuster cyntaf yng Nghymru i gynnig hyn i safon Consortiwm Manwerthu Prydain. Weinidog, a ydych chi'n cytuno bod cefnogaeth i fusnesau fel hyn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i dyfu diwydiannau yng Nghymru fel y diwydiant amaethyddol, sydd, wrth gwrs, yn un o'r prif ddiwydiannau yn y rhanbarth hwnnw?