Ynni Gwyrdd yn Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 1:54, 29 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i drafod cyfrifoldebau portffolio trawsbynciol. Cyfarfûm â hi ddoe gyda’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Mae ein swyddogion yn mynd ati ar y cyd i ganfod cyfleoedd ar gyfer denu buddsoddiad mewn ynni gwyrdd ar yr ynys a rhanbarth gogledd Cymru yn ehangach, gan gynnwys trafodaethau â rhanddeiliaid allweddol ar gyfleoedd ynni gwynt ar y môr a manteision cymunedol o fuddsoddiadau ynni lleol.