Y Diwydiant Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:14, 29 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn hapus iawn i sicrhau bod y trafodaethau hynny'n digwydd, os nad ydynt yn digwydd eisoes, oherwydd, fel y dywedais, mae hwn yn gyfle gwirioneddol i dyfu, lle mae swyddi da ar gael a dyfodol go iawn ar gyfer y diwydiant hwn. Nid yw hyn yn mynd i ddiflannu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Bydd yn dod yn bwysicach—yn bwysicach o ran sicrhau bod y nifer gywir o'r sglodion hyn ar gael, ond hefyd, yn hollbwysig, y sgiliau sy'n mynd ochr yn ochr â hynny i sicrhau ein bod yn datblygu'r dechnoleg honno ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru.