Cymorth Iechyd Meddwl Amenedigol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 2:31, 29 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi gytuno'n llwyr â phopeth y mae Buffy newydd ei ddweud—eilio'r hyn a ddywedodd—ac ailadrodd ei galwadau am fwy o hyfforddiant ledled Cymru yn gyson, fel y dywedoch chi, Weinidog, yn hyn o beth? A gaf fi wneud cais ar gyfer ymwelwyr iechyd yn benodol? A minnau'n fam fy hun ac wedi bod drwy enedigaeth anodd, gwn am bwysigrwydd y rôl y maent yn ei chwarae ym mlwyddyn gyntaf bywyd plentyn a'r flwyddyn gyntaf honno i'r fam o ran canfod iselder ôl-enedigol neu rywbeth sy'n bod gyda'r baban y mae angen inni fod yn ymwybodol ohono. Gall yr ymweliadau rheolaidd hynny achub bywydau. Felly, Weinidog, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ymwelwyr iechyd a'r gostyngiad yn y niferoedd.