Cymorth Iechyd Meddwl Amenedigol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:28, 29 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, sy'n faes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu o fewn y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ar gyfer 2019-22. Rydym hefyd yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol ledled Cymru.