Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 29 Medi 2021.
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gwasanaeth ambiwlans Cymru i ddarparu gwasanaethau ymatebol brys. Rwyf wedi gofyn i'r prif gomisiynydd gwasanaethau ambiwlans weithio gyda byrddau iechyd, gwasanaeth ambiwlans Cymru a phartneriaid i ddatblygu a chryfhau cynlluniau uwchgyfeirio system gyfan ac i alluogi mwy o reolaeth weithredol dros gyfnod y gaeaf.