Mynediad at Feddygon Teulu yng Nghaergybi

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:02, 29 Medi 2021

Mae meddygon teulu yn wynebu pwysau enfawr wrth ddelio â’r pandemig, a delio ar yr un pryd â galw uchel oherwydd cleifion â salwch sydd ddim yn gysylltiedig â COVID. Mae mynediad at feddygon teulu yng Nghaergybi wedi bod yn heriol dros y misoedd diwethaf, ond mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn canolbwyntio'n gryf nawr i wella'r sefyllfa.