Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 29 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:04, 29 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Rydym yn defnyddio dull system gyfan i wella a chefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys gweithredoedd ar draws meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a gwaith ieuenctid, gyda ffocws ar atal ac ymyrraeth gynharach, gan sicrhau hefyd fod gwasanaethau arbenigol ar gael pan fo angen.