Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 29 Medi 2021.
Rwy'n cydnabod bod hwn wedi bod yn ddechrau heriol i'r flwyddyn ysgol. Rŷm ni'n parhau i weithio'n agos gydag ysgolion, gyda llywodraeth leol, gydag undebau dysgu, a gydag arbenigwyr iechyd cyhoeddus, i fonitro'r sefyllfa a phenderfynu pa gamau sydd eu hangen i sicrhau ein nod gyffredin o sicrhau bod plant yn gallu bod yn yr ysgol yn dysgu.