Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 29 Medi 2021.
Hoffwn ddatgan buddiant, gan fy mod yn gadeirydd Brynawel Rehab Wales.
Rwy'n falch o fod wedi cefnogi'r cynnig hwn i'w drafod a diolch am fy ngalw i siarad y prynhawn yma. Mae dementia yn glefyd creulon: creulon i'r unigolyn ac i'w teuluoedd. Mae hefyd yn un a fydd yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus i ddiwygio er mwyn diwallu anghenion pobl, lle bydd angen gofal mwy hyblyg o ansawdd gwell wrth i fwy o bobl wynebu'r salwch hwn.
Rydym yn heneiddio. Mae dementia ar gynnydd, ac mae byw bywyd da yn dod yn her fawr—yn her y mae'n rhaid inni ei goresgyn. Mae ein cynnig yn galw'n briodol am yr angen i sicrhau diagnosis cywir o gyflwr rhywun a sicrhau bod y pecyn cymorth cywir ar gael yn gyflym. Mae'n rhaid inni gydnabod hefyd fod gan oddeutu un o bob 10 o bobl â dementia ryw fath o niwed i'r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol—a elwir yn ARBD—yn enwedig mewn pobl iau o dan 65 oed, lle mae ARBD yn effeithio ar tua un o bob wyth o bobl. Gellir ei wrthdroi a cheir gwell prognosis os ceir diagnosis cynnar.
Mae cynllun gweithredu Cymru ar gyfer dementia yn dod i ben y flwyddyn nesaf, ac er fy mod yn croesawu llawer o'r teimladau a'r ymrwymiadau hyd yma, mae angen inni fod yn fwy uchelgeisiol er mwyn gallu sicrhau bywyd o ansawdd da i bobl â dementia. Oherwydd y camau gweithredu sydd wedi'u cynnwys ynddo, roedd y cynllun yn dweud y byddai mwy o bobl yn cael diagnosis cynharach gan eu galluogi i gynllunio a chael gafael ar gymorth a gofal cynnar pe bai angen. Edrychaf ymlaen at weld y Gweinidog yn amlinellu sut y mae'r cynllun hwn wedi gweithio i unigolion a pha dystiolaeth sy'n dangos bod mwy o bobl wedi cael diagnosis yn gynharach.
Pan gaiff pobl ddiagnosis, mae rhai'n ofni'r hyn y gallai ei olygu iddynt hwy. Mae llawer o bobl eisiau gofal gartref, yn agos at eu teuluoedd a'u cymdogion, gan barhau i fod yn rhan o'r gymuned. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym i gyd yn ei werthfawrogi, ac i bobl hŷn â dementia, ni allwn fyth danbrisio pwysigrwydd teulu a phwysigrwydd bod yn gyfarwydd â'r hyn sydd o'n cwmpas a'n hardal leol. Yn anffodus, mae llawer o bobl yn gorfod mynd i gartref gofal yn y pen draw, nid am na ellir ymateb i'w cyflwr yn eu cartrefi eu hunain, ond oherwydd problemau cyllid. I rai pobl, nid yw'n ymwneud â'r hyn sydd orau iddynt hwy, ond yn hytrach yr hyn sydd orau i'r wladwriaeth a chyfleustra pobl eraill. Mae hynny'n peri tristwch imi ac mae angen inni feddwl yn fwy creadigol ynglŷn â helpu pobl i aros gartref am fwy o amser.
Mae ein sector gofal yn ei chael hi'n anodd, ac mae'r pandemig wedi amlygu gwendidau yn ein gallu i gynnal sector o ansawdd uchel. Mae'r Prif Weinidog wedi ymgyrchu'n flaenorol ar bolisi o symud darpariaeth gofal tuag at y sector dielw, er mwyn rhyddhau mwy o fuddsoddiad. Mae hyn yn synhwyrol, ond mae angen inni feddwl am ba fathau o gartrefi a adeiladwn, sut y cânt eu cynllunio, eu lleoli a'u cysylltu.
Mae hefyd yn ymwneud â'r gwasanaeth a ddarparwn, y bywydau a'r profiadau dyddiol y gallwn eu cefnogi. Mae cynllun y Llywodraeth yn sôn yn briodol am ddatblygu cysylltiadau rhwng cartrefi a'r gymuned, ond mae angen inni oedi ac ailfeddwl sut y dylai'r cartrefi hyn edrych yn y dyfodol, a'r amgylchedd y maent yn ei ddarparu. Mae hefyd yn ymwneud â'r ffordd y gall teuluoedd barhau i fod yn rhan o ofal a bywydau eu hanwyliaid.
Hoffwn weld gwasanaethau'n cael eu hintegreiddio yn gyflymach, gan gynnwys partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol a thai. Yn y bôn, fodd bynnag, mae angen inni weithio drwy'r ffordd yr ydym yn adeiladu capasiti mewn gofal i ymateb i'r cynnydd tebygol yn y rhai a fydd yn byw gyda dementia pan fyddant yn hŷn. Mae angen inni ddysgu gan bobl a'u teuluoedd am y mathau o bethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth iddynt hwy, yr hyn sy'n bwysig iddynt hwy yn eu bywydau a sut y gallwn ni, gyda'n gilydd, eu helpu i gael hynny. Hoffwn gael sicrwydd y prynhawn yma y bu rhywfaint o gynnydd ac ymrwymiad i fod yn fwy uchelgeisiol yn y modd yr awn ati i ddarparu gofal a gwasanaethau i bobl â dementia. Diolch.